Yr Hen Stabl
Y lleoliad perffaith i grwydro Mynyddoedd Eryri a’r arfordirLleolir yr Hen Stabl yng nghalon Eryri. Dim ond pedair milltir i ffwrdd y mae Llanberis a throed yr Wyddfa mynydd uchaf Cymru, tra bod tref hanesyddol Caernarfon hefyd tua phedair milltir i’r cyfeiriad arall.
Mae digonedd o leoedd i fynd am dro gyda golygfeydd godidog i chi ei fwynhau yn yr ardal. ‘Rydym hefyd yn agos iawn at draethau ardderchog a llawer o atyniadau eraill – bydd yn anodd i chi benderfynu beth i’w wneud!
Mae’r Hen Stabl wedi ei addasu’n berffaith o hen adeiladau fferm. Gwnaed yr addasiad i’r safon uchaf, ac mae’r steil fodern yn gweddu’n ardderchog i gymeriad yr adeilad. Mae’r lloriau pren a llechen, a dodrefn safonol lledr a derw yn ei wneud yn lle perffaith i ddod yn ôl iddo ar ôl diwrnod o fwynhau popeth y gall Eryri a’r ardal ei gynnig i chi.
Oddi allan i’r Hen Stabl mae gardd ac eisteddfa heulog i chi gael ymlacio.