Llety
Y lleoliad perffaith i grwydro Mynyddoedd Eryri a’r arfordirMae yna ddwy lofft, un gyda gwely maint brenin ac un dwbl. (Mae cot a chadair uchel ar gael ar gais). Mae’r baddondy o faint da ac yn cynnwys bath a chawod cerdded i mewn tra bod ardal y gegin agored/bwyta/lolfa yn cynnig lle hwylus ac enfawr gyda’r offer arferol i’ch gwneud yn gartrefol.
Mae gan y lolfa soffas cyfforddus, teledu freeview, dvd a stôf llosgi coed, ac mae drysau patio yn arwain allan i’r ardd hwylus gyda phatio a dodrefn gardd.
Darperir dillad gwely, tyweli (1 llaw ac 1 bath i bob person) trydan a nwy yn gynwysedig yn y pris.
Ni dderbynnir anifeiliaid anwes ac ni chaniateir ysmygu yn yr adeilad. Cofiwch ddod a thyweli glan môr os gwelwch yn dda.